CatherineDAVIESDAVIES - CATHERINE ANN (Katie). 5 Hafan Elan, Llanrug, Caernarfon. Dymuna Gwawr, Meirion a'r teulu ddatgan eu diolch cywiraf i ffrindiau a chymdogion am bob arwydd o gydymdeimlad a estynwyd iddynt trwy ymweliadau, galwadau ffon a chardiau yn eu profedigaeth o golli mam, nain a hen nain annwyl. Diolch hefyd i staff Ward Padarn, Ysbyty Eryri am eu gofal arbennig a thyner. Derbyniwyd rhoddion o £810 at yr Ambiwlans Awyr. Carwn ddiolch i'r Parchedig Marcus Robinson am ei wasanaeth cysurlawn ar ddydd yr angladd. Hefyd i Dylan o Paragon, Penygroes ac E.W. Pritchard, Llanberis am eu caredigrwydd a'u trefniadau urddasol a thrylwyr. Diolch i bawb.
Keep me informed of updates
Add a tribute for Catherine